Skip to content ↓

Ysgol Noddfa

   

 

Fel ysgol, rydym yn ymroddedig tuag at gefnogi a chydweithio gyda ffoaduriaid ac amrywiaeth o bobl mewn angen ar draws y byd. Rydym yn ysgol sy'n sicrhau cynhwysiant ac amrywiaeth ac yn ffodus iawn i gynnwys gymaint o grefyddau, diwylliannau a chydraddoldeb o fewn ein hysgol a'n gymuned. Rydym yn gweithio'n barhaus gyda'n Criw Cynhwysiant i sicrhau bod ein cwricwlwm, gweithgareddau ac amgylchedd ysgol a'r ardal leol yn gynhwysol ac yn dathlu'r holl wahaniaethau sy'n ein gwneud yn ddysgwyr uchelgeisiol, creadigol, iach ac egwyddorol. Rydym hefyd yn ystyried hawliau plant a llaid y disgybl fel arf craidd o'n llwyddiant a'n cynnydd. Yn Ysgol Glan Morfa mae croeso mawr i bob un disgybl, aelod a staff ac aelod o'r gymuned i fod yn rhan o deulu Glan Morfa. Fel ysgol, rydym yn gweithio tuag at ein gwobr am ddod yn Ysgol Noddfa sy'n cynnig cymorth, addysg a chyfleoedd i bob teulu a ffoadur mewn angen. Gyda'n gilydd fe lwyddwn.