Dewiniaid Digidol
Pwy ydy'r Dewiniaid Digidol?
I ddatblygu sgiliau Technoleg Gwybodaeth (TG) a chymhwysedd digidol ein disgyblion ac oedolion yn Ysgol Glan Morfa, rydym yn gweithredu rhaglen o Arweinwyr Digidol sef ein ‘Dewiniaid Digidol’.
Fel rhan o dîm, mae’r Dewiniaid Digidol yn ymgymryd â’r swyddogaethau canlynol o fewn yr ysgol:
- Blogio ar ran yr ysgol, dosbarth neu glwb;
- Rhoi sylwadau ar bostiau blog pobl eraill;
- Rhannu eu sgiliau a’u harbenigedd gyda disgyblion, dosbarthiadau ac athrawon eraill;
- Cydosod offer TG mewn dosbarthiadau ar gyfer athrawon, a helpu i gadw offer TG.
- Arwain clybiau TG;
- Gweithio gyda disgyblion o ysgolion eraill ar brosiectau penodol;
- Mynychu sesiynau rhannu ar ôl ysgol, e.e. diwrnodau agored gyda rhieni a llywodraethwyr.