Skip to content ↓

Gweledigaeth, Gwerthoedd ac Amcanion

Gweledigaeth Clwstwr Bro Edern

Ein Gweledigaeth

Bwriad Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern yw diwallu anghenion ein disgyblion, sy’n dod o gefndiroedd amrywiol mewn dalgylch gymysg yn Nwyrain Caerdydd, prifddinas Cymru.   Mae’r Pedwar Diben wrth galon Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern. Er mai dibenion hir dymor yw’r rhain, maent angen sylw dyddiol er mwyn cael eu gwireddu.

Wrth i ni arwain disgyblion sy’n falch o’u treftadaeth ddinesig yn ein prifddinas, mae Cymreictod, yr iaith Gymraeg a’i datblygiad hanesyddol yn greiddiol i’n gweledigaeth. Mae plethu meysydd ein cwricwlwm yn bwrpasol yn sicrhau bod disgyblion Clwstwr Bro Edern yn elwa o ehangder y cwricwlwm tra’n canolbwyntio ar yr Hyn sy’n Bwysig.

Mae’r bobl a astudir yng Nghwricwlwm Clwstwr Bro Edern yn drawsdoriad amrywiol ac yn cynnwys modelau rôl sy’n ysbrydoliaeth i’r holl ystod o ddisgyblion yn y clwstwr.  Wrth gael eu magu mewn dinas aml-ddiwylliannol ble mae cyd-fyw a chyd-dynnu’n rhan allweddol o fywyd beunyddiol, mae ennyn goddefgarwch a pharch yn ein disgyblion yn hanfodol.

Mae annog uchelgais yn ein disgyblion yn golygu datblygu sgiliau a strategaethau cadarn i’w galluogi i wynebu llwyddiant a methiant. Mae dyfalbarhad a gwydnwch yn allweddol fel rhan o’r feddylfryd twf a fegir yn ein disgyblion.  Gwybodaeth gadarn sy’n gosod y sylfaen i ddisgyblion y clwstwr elwa o sgiliau a phrofiadau y gellir eu trosglwyddo i amryw o gyd-destunau heddiw, ac yn y dyfodol.

Mae gan ysgolion y clwstwr y gallu i drawsnewid bywydau ein disgyblion. Dyma ble maen nhw’n ennill yr wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau a fydd yn cyfoethogi gweddill eu bywydau.  Mae’r gwreiddiau ac adenydd yn logo’r Clwstwr yn crisialu hyn.

Amcanion yr Ysgol

  • Datblygu pob plentyn hyd eithaf ei allu yn gorfforol, yn emosiynol, yn gymdeithasol ac yn addysgiadol. 
  • Sicrhau cyfle cyfartal i dderbyn addysg o ansawdd uchel gna werthfawrogi cyfraniad pawb. 
  • Datblygu disgyblion sydd ag agwedd gadarnhaol at ysgol a dysgu parch tuag at anghenion eu cyd ddisgyblion. 
  • Creu awyrgylch sydd yn hybu annibynniaeth a hyder o fewn ein disgyblion. Awyrgylch sydd yn symbylu dysgu.
  • Meithrin Cymry Cymraeg cyflawn sydd yn falch o'u Cymreictod ac hefyd yn gwerthfawrogi dwieithrwydd.
  • Datblygu disgyblion sydd yn parchu rheolau o fewn yr ysgol a'r gymdeithas.

Ein Gwerthoedd

Ein Gwerthoedd
Hapusrwydd
Cydweithio
Mentrus
Egwyddorol
Uchelgeisiol 
Caredig 
Parch
Cymreictod