Skip to content ↓

Croeso gan y Pennaeth

Croeso i Ysgol Glan Morfa

Pam dewis addysg Gymraeg ac Ysgol Glan Morfa

Croeso i Ysgol Glan Morfa

Mae'n bleser gennyf gyflwyno'r wefan hon i chi gan obeithio y cewch flas o’r hyn a gynigir yn Ysgol Glan Morfa. 

Ein prif nod fel ysgol yw creu awyrgylch hapus a diogel i’n disgyblion fel eu bod yn awyddus i ddysgu ac yn mwynhau dod i’r ysgol. Rydyn yn awyddus iawn i weithio mewn partneriaeth â’n rhieni er mwyn i’n disgyblion gyrraedd eu llawn botensial.

Anogwn ein disgyblion i barchu eraill a dangos cariad tuag at eu gwlad, iaith, diwylliant a threftadaeth. Mae’n flaenoriaeth i ni baratoi ein disgyblion i fod yn ddinasyddion cyfrifol a gofalgar. Gweithiwn yn galed i feithrin gwerthoedd yn ein disgyblion a fydd yn eu paratoi at fod yn unigolion balch, hyderus a chyflawn.

Ein gweledigaeth yw darparu addysg o`r ansawdd orau, a hynny trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg gan staff ymrwymiedig a phroffesiynol sy`n anelu at y safonau addysgol gorau posib.

Diolch yn fawr,

Meilir Tomos CPCP 
Pennaeth