Skip to content ↓

Clwb Brecwast

Mae’r ysgol yn cynnig brecwast yn rhad ac am ddim i holl ddisgyblion yr ysgol gan gynnwys y Dosbarth Meithrin bore a'r Cylch Meithrin. Ariannir y Clwb brecwast gan Lywodraeth Cymru. Mae'r Clwb Brecwast yn agor yn neuadd yr ysgol am 8.00y.b. ac yn derbyn plant hyd nes 8.15y.b. Mae disgyblion yn cael eu goruchwylio hyd nes bod yr ysgol yn dechrau am 8:40y.b. 

Fel arfer, ceir dewis o’r bwydydd canlynol:

  • Dewis o rawnfwydydd (heb siwgr)

  • Darn o dost bara cyflawn.

  • Ffrwythau e.e. melon.

  • Llaeth hanner sgim i yfed neu i osod dros y grawnfwyd.

  • Sudd ffrwyth neu ddŵr.

I gofrestru eich plentyn ar gyfer ein Clwb Brecwast cysylltwch gyda'r swyddfa ar 02920483663 neu dewy e-bost ysgolglanmorfa@cardiff.gov.uk