Cylch Meithrin Glan Morfa
Registered Charity Number 118731 CIW Registration Number W15/00001902
A fyddwch chi'n chwilio am ofal plant cofleidiol i'ch plentyn 3 neu 4 oed o fis Medi 2024 i Medi 2025?
Mae Cylch Meithrin Ysgol Glan Morfa yn darparu gofal plant cofleidiol i blant sy'n mynychu sesiynau bore a phrynhawn meithrin yr Ysgol. Rydym wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ac yn rhan o’r Cynnig Gofal Plant.
Pryd mae’r Cylch ar agor?
Mae’r Cylch ar agor 8:45-12:00 a 12:00-3:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener, amser tymor. Gall plant fynychu'r Cylch yn y bore, cael cinio ac yna mynd yn syth i sesiwn feithrin y prynhawn. Neu all plant mynychu’r meithrin yn y bore cael cinio a mynd syth i sesiwn Cylch yn y prynhawn.
Faint fydd hwn yn costio?
I'r rhai sy'n gymwys ar gyfer y Cynnig Gofal Plant 30 awr am ddim, does dim rhaid i chi dalu am y sesiynau, er y bydd tâl bach o 75c y dydd am fyrbryd sydd yn cynnwys ffrwyth, llysiau a rhywfath o carbohydrate a dŵr neu llaeth.
I ddarganfod mwy am y Cynnig Gofal Plant, ewch i https://www.cardiff.gov.uk neu sganiwch y QR Code.
Gall y rhai sydd ddim yn gymwys i gael y Cynnig Gofal Plant dalu £16.25 am y sesiwn bore a £15.00 am sesiwn prynhawn. Gallwn ni dderbyn plant y diwrnod ar ôl iddynt droi yn 3 mlwydd i’w paratoi ar gyfer dechrau yn y feithrin y tymor canlynol. Y gost fydd fel yr uchod.
Beth sydd yn digwydd yn y Cylch?
Mae ein sesiynau'n cynnwys chwarae rhydd, canu, amser stori, gweithgareddau creadigol fel tynnu llun, paentio, lliwio, crefft, dawnsio, a hefyd chwarae blêr, toes, gloop, shaving foam ac yn y blaen. Mae yna cyfle i’r plant chwarae yn y tywod a dŵr, chwarae rôl. Mae gennym fynediad i'r iard gan cynnwys y ffram ddringo a’r goedlan Mae yna hefyd ardal awyr agored sydd wedi'i gorchuddio'n rhannol sydd yn cynnwys cegin mwdlyd, mae hawl i’r plant fynd mewn a mas trwy gydol y sesiwn. Rydyn ni'n gwneud llawer o weithgareddau dan arweiniad plant trwy arsylwi ar y plant a gwrando arnyn nhw a'u diddordebau.
Beth sydd angen i mi wneud nesaf?
Mae lleoedd yn gyfyngedig. Os oes gennych ddiddordeb, e-bostiwch ni ar bethancylchglanmorfa@gmail.com cyn gynted â phosibl, gan roi gwybod i ni pa ddyddiau rydych chi'n debygol o fod eu hangen. Os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol gyda Bethan, yr arweinydd, anfonwch e-bost i drefnu hyn.
Ffurflenni Cofrestru a chaniatad
Pwy yw pwy yn Cylch Meithrin
Cynllun Gweithredol
Datganiad o Ddiben
Polisïau 2023/2024
- Policies Cylch Meithrin Ysgol Glan Morfa 2023/2024.pdf
- Polisiiau Cylch Meithrin Ysgol Glan Morfa 2023/2024.pdf
Polisi Amddiffyn Plant
- Cylch Meithrin Ysgol Glan Morfa Polisi Amddiffyn Plant.pdf
- Cylch Meithrin Ysgoil Glan Morfa Child Protection Policy.pdf