Skip to content ↓

Cylch Meithrin Glan Morfa

Registered Charity Number 118731 CIW Registration Number W15/00001902

A fyddwch chi'n chwilio am ofal plant cofleidiol i'ch plentyn 3 neu 4 oed o fis Medi 2024 i Medi 2025?

Mae Cylch Meithrin Ysgol Glan Morfa yn darparu gofal plant cofleidiol i blant sy'n mynychu sesiynau bore a phrynhawn meithrin yr Ysgol.  Rydym wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ac yn rhan o’r Cynnig Gofal Plant.

Pryd mae’r Cylch ar agor?

Mae’r Cylch ar agor 8:45-12:00 a 12:00-3:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener, amser tymor. Gall plant fynychu'r Cylch yn y bore, cael cinio ac yna mynd yn syth i sesiwn feithrin y prynhawn.  Neu all plant mynychu’r meithrin yn y bore cael cinio a mynd syth i sesiwn Cylch yn y prynhawn.

Faint fydd hwn yn costio?

I'r rhai sy'n gymwys ar gyfer y Cynnig  Gofal Plant 30 awr am ddim, does dim rhaid i chi dalu am y sesiynau, er y bydd tâl bach o 75c y dydd am fyrbryd sydd yn cynnwys ffrwyth, llysiau a rhywfath o carbohydrate a dŵr neu llaeth.

I ddarganfod mwy am y Cynnig Gofal Plant, ewch i https://www.cardiff.gov.uk neu sganiwch y QR Code.

Gall y rhai sydd ddim yn gymwys i gael y Cynnig Gofal Plant dalu £16.25 am y sesiwn bore a £15.00 am sesiwn prynhawn. Gallwn ni dderbyn plant y diwrnod ar ôl iddynt droi yn 3 mlwydd i’w paratoi ar gyfer dechrau yn y feithrin y tymor canlynol.  Y gost fydd fel yr uchod.

Beth sydd yn digwydd yn y Cylch?

Mae ein sesiynau'n cynnwys chwarae rhydd, canu, amser stori, gweithgareddau creadigol  fel tynnu llun, paentio, lliwio, crefft, dawnsio, a hefyd chwarae blêr, toes, gloop, shaving foam ac yn y blaen. Mae yna cyfle i’r plant chwarae yn y tywod a dŵr, chwarae rôl.  Mae gennym fynediad i'r iard gan cynnwys y ffram ddringo a’r goedlan  Mae yna hefyd ardal awyr agored sydd wedi'i gorchuddio'n rhannol sydd yn cynnwys cegin mwdlyd,  mae hawl i’r plant fynd mewn a mas trwy gydol y sesiwn.   Rydyn ni'n gwneud llawer o weithgareddau dan arweiniad plant trwy arsylwi ar y plant a gwrando arnyn nhw a'u diddordebau.

Beth sydd angen i mi wneud nesaf?

Mae lleoedd yn gyfyngedig. Os oes gennych ddiddordeb, e-bostiwch ni ar bethancylchglanmorfa@gmail.com cyn gynted â phosibl, gan roi gwybod i ni pa ddyddiau rydych chi'n debygol o fod eu hangen.   Os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol gyda Bethan, yr arweinydd, anfonwch e-bost i drefnu hyn.

Ffurflenni Cofrestru a chaniatad

Pwy yw pwy yn Cylch Meithrin

Cynllun Gweithredol

Datganiad o Ddiben

Polisïau 2023/2024

Polisi Amddiffyn Plant

Arolygaeth Gofal Cymru

Tystysgrif Aelodaeth Mudiad Meithrin 

Adroddiad Arolygiad AGC